Gwasanaeth Rhieni a Mwy

Pwy yw Rhieni a Mwy?

Rydym yn dîm, dan arweiniad Seicolegydd Addysg, sy’n darparu cymorth rhianta tymor byr (tua 10 wythnos) yn y cartref.

Mae’r Seicolegwyr Addysg yn y tîm wedi cael hyfforddiant arbenigol am sut mae plant yn meddwl, yn teimlo, yn ymddwyn ac yn datblygu.

Mae’r Swyddogion Cyswllt Cartref yn y tîm wedi cael hyfforddiant o ran datblygiad plant, cwnsela a seicoleg ac mae ganddynt lawer o brofiad o weithio gyda gofalwyr a phlant ifanc.

Mae’r Swyddogion Cyswllt Cartref yn cael goruchwyliaeth a hyfforddiant parhaus gan y Seicolegwyr Addysg yn y tîm i sicrhau bod ein gwaith yn cael ei lywio gan seicoleg a’r dystiolaeth ddiweddaraf.

Pam y gallai Rhieni a Mwy weithio gyda chi?

Gall gofalu am blentyn ifanc fod yn brofiad bendigedig. Gall hefyd fod yn anodd ac yn straen ar adegau.

Mae llawer o resymau gwahanol pam y gallen ni ddechrau gweithio â chi a’ch plentyn. Y tri phrif reswm yw eich helpu gyda’r canlynol:

• Eich perthynas â’ch plentyn.
• Ymddygiad eich plentyn.
• Datblygiad ac arferion eich plentyn yn y cartref e.e. cysgu, bwyta, mynd i’r toiled.

Sut bydd Rhieni a Mwy yn gweithio gyda chi fel teulu?

Gallwn weithio gydag unrhyw un sydd mewn rôl rianta: mamau, tadau, neiniau a theidiau, gofalwyr maeth ac ati.

• Os ydych yn cytuno i weithio gyda ni, rydym yn dechrau trwy ymweld â chi, neu eich ffonio chi gartref. Mae hwn yn gyfle i chi gael gwybod mwy amdanom ni ac i ni gael gwybod mwy amdanoch chi.

• Gallwch ddweud wrthym am eich sefyllfa bresennol ac am y newidiadau yr hoffech eu gwneud. Wedyn gallwn gytuno gyda’n gilydd ar beth fydd ffocws ein gwaith.

• Yna byddwn yn ymweld â chi, neu’n eich ffonio, unwaith yr wythnos, am tua awr bob sesiwn, am ryw 10 wythnos, i weithio gyda chi a’ch plentyn tuag at y newidiadau hyn.

• Gallwn gysylltu â phobl eraill sy’n gweithio gyda chi a’ch plentyn.

• Byddwn yn gofyn i chi lenwi holiadur byr, cyn ac ar ôl ein gwaith gyda chi a’ch plentyn.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd