Amdanom ni

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Dechrau’n Deg, sydd wedi’i thargedu at blant 0-3 mlwydd 11 mis oed a’u teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd penodol o Gaerdydd, a ddiffinnir yn ôl cod post.

Cydnabyddir bod blynyddoedd cynnar plant yn gyfnod pwysig ac mae eu profiadau yn ystod yr amser hwn yn cael effaith fawr ar eu datblygiad yn y dyfodol. Rhaid i’r darnau fod yn eu lle.

Mae Dechrau’n Deg yn cynnig gwasanaethau i gefnogi rhieni a phlant.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cysylltwch â ni.

Pob blwyddyn bydd Dechrau’n Deg Caerdydd yn cynnal ei gynhadledd flynyddol ym mis Medi. Dyma gyfle gwych i’r holl staff sy’n rhan o’r rhaglen ddod at ei gilydd a dysgu wrth ei gilydd. Mae’r digwyddiad yn unigryw i Gaerdydd, ac ymfalchïwn yn ei drefniant. Gall y staff ddod at ei gilydd nid yn unig i ddysgu, ond hefyd i werthuso’r gwaith y maent wedi ei gyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ymgyrch addysgol gymunedol flynyddol flaenllaw’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant (gweler isod) yw Wythnos Diogelwch Plant gan godi ymwybyddiaeth o ddamweiniau difrifol ymhlith plant a sut i’w hatal, heb fod yn or-amddiffynnol ohonynt.

Mae adnoddau am ddim yr Ymddiriedolaeth yn ysgogi miloedd o weithgareddau a digwyddiadau lleol hwyl a difyr i deuluoedd ledled y DU.

Ac mae Wythnos Diogelwch Plant yn llwyddo. Y llynedd, roedd 31% o rieni’n ymwybodol o Wythnos Diogelwch Plant, sef y nifer uchaf erioed. Yn 2013, cymerodd un o bob wyth o rieni a holwyd gamau i wneud eu plant yn fwy diogel rhag damweiniau difrifol o ganlyniad i’r Wythnos.

Yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant

Yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant (CAPT) yw prif elusen y DU ym maes atal nifer y plant a phobl ifanc sy’n cael eu lladd, eu gwneud yn anabl, neu sy’n cael eu hanafu’n ddifrifol mewn damweiniau.
Mae’n bodoli am fod damweiniau yn un o’r prif achosion o farwolaeth ac anafiadau difrifol ymhlith plant a phobl ifanc – ac am fod modd atal llawer o’r damweiniau hyn.

Mae am i blant fyw bywydau actif ac iach – nid cael eu hamddiffyn yn ormodol. Mae angen i blant arbrofi, chwarae a chymryd risg. Ond mae angen cydbwysedd. Nid yw unrhyw riant am i’w blentyn fod yn anabl neu gael ei ladd mewn damwain yr oedd modd ei hosgoi.

Mae’n helpu pobl a sefydliadau i ddeall y risgiau gwirioneddol i ddiogelwch plant. Ac i’w helpu i ennill sgiliau wrth reoli’r risgiau hynny, fel y gall teuluoedd a chymunedau helpu i atal plant a phobl ifanc rhag cael eu hanafu’n ddifrifol.

Wythnos Genedlaethol y Teulu yw’r dathliad blynyddol mwyaf o deuluoedd a gwerthoedd teuluol cadarnhaol yn y DU, gan ysbrydoli cenhedlaeth newydd i hyrwyddo a mwynhau bywyd teuluol.

Mae’r wythnos yn cynnig pob math o gyfleoedd i deuluoedd dreulio amser â’i gilydd, gan weithio gyda phartneriaid brand a rhwydwaith o sefydliadau dielw i gynnig gweithgareddau hwyl ac adnoddau defnyddiol sy’n mynd i’r afael â’r rhwystrau mwyaf i gael bywyd teuluol da.

Mae pob un o’r prif bleidiau gwleidyddol yn gefnogol o Wythnos Genedlaethol y Teulu ac mae miloedd o sefydliadau dielw’n dangos eu gwaith i gefnogi teuluoedd yn eu cymunedau yma a thramor.

Ers ei lansio yn 2009, mae teuluoedd wedi mwynhau cystadlaethau, ac wedi gwneud arbedion, mewn 15,000 o ddigwyddiadau teuluol ledled y wlad, ac mae ymchwil yr ymgyrch wedi codi ymwybyddiaeth fawr o’r materion sy’n effeithio ar fywyd teuluol yn y cyfryngau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i http://www.nationalfamilyweek.co.uk/

Hysbysebir pob swydd wag Dechrau’n Deg drwy wefan Cyngor Caerdydd neu wefan GIG Caerdydd a’r Fro.

Gwefan Swyddi Caerdydd

Gwneud i’r swyddi ddod atoch chi

Trefnwch hysbysiadau swyddi i gael gwybod pan fydd eich swydd ddewis yn dod ar gael, drwy e-bost neu neges destun.

Y wybodaeth ddiweddaraf

Tanysgrifiwch i’r ffrwd RSS i gael diweddariadau ar swyddi newydd.

Yn eich amser eich hun

Cadw a dychwelyd at geisiadau swyddi nad ydych wedi’u cwblhau eto.
Argraffwch a darllenwch dros y ceisiadau rydych wedi’u gwneud am hyd at 6 mis.

Anfon at Ffrind

Rhannwch eich canfyddiadau ag eraill drwy ddefnyddio’r ddolen anfon at ffrind

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd