Beth yw’r Rhaglen Datblygu Rhieni?

Beth yw’r Rhaglen Magu Plant?

Mae’r Rhaglen Magu Plant o Family Links yn credubod plant yn rhoi boddhad,yn ysbrydoli ac yn hwyl, ond gall eu gwarchod fod yn llawn straen a heriau.

Mae’r Rhaglen Fagu yn helpu i ddelio gyda’r heriau hyn fel y gallwch gael bywyd teuluol tawelach a hapusach. Nodau’r Rhaglen Magu yw helpu oedolion i ddeall a rheoli eu teimladau a’u hymddygiad a bod yn fwy cadarnhaol a meithringar yn eu perthynas â’u plant a’i gilydd. Mae’n annog agwedd at berthnasau sy’n rhoi i blant ac oedolion dechrau emosiynol iach yn eu bywydau a’u dysgu.

Dros y 10 wythnos byddwch yn edrych ar bynciau’n cynnwys:

  • Deall pam mae plant yn ymddwyn yn y ffordd maen nhw’n ymddwyn
  • Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiadau (ein rhai ni a’u rhai nhw)
  • Ystyried dulliau gwahanol o ddisgyblaethu
  • Dod o hyd i ffyrdd o ddatblygu cydweithrediad a hunanddisgyblaeth ymysg plant
  • Pwysigrwydd edrych ofalu am ein hunain

Gwybodaeth Ymarferol

  • Bydd 10 sesiwn 2 awr gyda seibiant ar gyfer lluniaeth ym mhob sesiwn.
  • Rydym yn argymell eich bod yn dod i bob un o’r deg sesiwn gan fod y rhaglen yn ffitio ynghyd fel pos.
  • Mae croeso i chi ddod i’r sesiynau ar eich pen eich hun neu gyda phartner neuberth yn asarall sy’n eich cefnogi wrth ofalu am eich plentyn.
  • Darperir y rhaglen yn anffurfiol gyda grwp o tua 12 rhiant.
  • Mae’r rhaglen yn fwyaf addas i rieni plant bacha phlant oedranysgol a meithrin.
  • Mae’r rhaglen ar gael gan Dechrau’n Deg a Rhianta Caerdydd 0-18 ac rydym yn cynnig crèche gyda staff cymwys.

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd