Tîm Bwyd a Maeth Dechrau’n Deg

Tîm Bwyd a Maeth Dechrau’n Deg

Mae ein tîm o ddeietegwyr a gweithwyr cymorth deietegol yn:

  • Cynorthwyo teuluoedd a phlant ardaloedd Dechrau’n Deg i gael deiet iach, fforddiadwy a maethlon er eu hiechyd a’u lles.
  • Cefnogi teuluoedd gyda sgiliau coginio mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Sicrhau bod teuluoedd yn derbyn gwybodaeth gyson a chywir a chymorth ymarferol ynghylch bwyd a maeth.

Pam mae maeth da yn bwysig i blant ifanc?

Mae plant sy’n bwyta’n rheolaidd ac yn bwyta amrywiaeth eang o fwydydd yn fwy tebygol o brofi iechyd da drwy gydol eu hoes. Mae’r Blynyddoedd Cynnar yn gyfnod o dwf a datblygiad cyflym pan mae’n bwysig iawn bwyta deiet cytbwys. Mae plant sy’n gwneud hyn yn fwy tebygol o fod gyda phwysau iach, iechyd deintyddol da ac yn llai tebygol o ddatblygu anemia diffyg haearn neu rhwymedd. Mae plant sy’n cael eu maethu’n dda yn llai tebygol o ddatblygu heintiau ac os byddant yn gwneud hynny byddant yn gwella’n gyflymach.

Mae bwyta deiet iach amrywiol ynghyd fel teulu yn helpu i annog arferion bwyta da am oes.

Pa Wasanaethau y gall y tîm Bwyd a Maeth eu darparu?

  • Sesiynau coginio ymarferol
  • Cyrsiau achrededig, bwyta’n iach a choginio
  • Cyngor ac adnoddau bwyta’n iach
  • Cyflwyno cyngor ac adnoddau bwydydd solet
  • Gwybodaeth am dalebau Dechrau Iach a fitaminau
  • Gwybodaeth am brosiectau bwyd cymunedol
  • Canllawiau ar gwpanau yfed a biceri addas
  • Cefnogi lleoliadau gofal plant i ennill Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur a’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy
  • Hyfforddiant i Weithwyr Proffesiynol y Blynyddoedd Cynnar

Cyflwyno Bwydydd Solet

Mae cyflwyno eich babi i fwydydd solet, a elwir weithiau’n fwydo ategol neu’n diddyfnu yn amser hwyliog a chyffrous! Mae’n gam pwysig o ddatblygiad pan gaiff bwydydd eu cyflwyno ochr yn ochr â llaeth y fron arferol eich babi neu laeth fformiwla cyntaf eich babi, er mwyn helpu i ddarparu’r maeth sydd ei angen arno ar gyfer twf a datblygiad.

Rydym wedi cynhyrchu cyfres o fideos ar gyflwyno bwydydd solet i’ch babi, y gallwch ddod o hyd iddynt yma www.keepingmewell.com/introducing-your-baby-to-solid-foods/

Mae’r pynciau a drafodir yn y fideos yn cynnwys:

  • Pryd i ddechrau cyflwyno bwydydd solet
  • Bwydydd a gwead i’w cynnig
  • Cadw eich baban yn ddiogel
  • Cyflwyno alergenau
  • Symud ymlaen i brydau teuluol

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gyflwyno bwydydd solet i’ch babi, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd a all helpu i’ch tywys chi.

Rydym yn darparu rhaglen hyfforddi Maeth a Deieteg gynhwysfawr ar gyfer ein Hymwelwyr Iechyd, sy’n cynnwys hyfforddiant ar y dystiolaeth a’r cyngor diweddaraf ynghylch cyflwyno bwydydd solet.

Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur Caerdydd

Mae Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur yn gynllun sy’n cefnogi darparu byrbrydau a diodydd iach mewn lleoliadau gofal plant. Mae pob lleoliad gofal plant o fewn Dechrau’n Deg yn rhan o’r cynllun. Mae’n cysylltu â Chynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd, sy’n cydnabod lleoliadau cyn-ysgol fel cyfranwyr at iechyd a lles plant.

Rhoddir y wobr i leoliadau sy’n bodloni’r meini prawf llym o ran:

  • Byrbrydau a diodydd iach
  • Yr amgylchedd y mae plant yn bwyta ynddo
  • Hylendid bwyd da
  • Hyrwyddo bwyta’n iach drwy weithgareddau o ddydd i ddydd

Mae byrbrydau iach yn isel mewn braster, siwgr ac ychwanegolion ac yn uwch mewn fitaminau, mwynau a ffibr.  Diodydd addas i blant ifanc yw dŵr plaen neu laeth. Bydd eich lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn gallu dweud wrthych am y byrbrydau a’r diodydd y maent yn eu darparu.

Mae pryder cenedlaethol ynghylch faint o fyrbrydau nad ydynt yn iachus y mae ein plant ifanc yn eu bwyta.  Mae darparu byrbryd iach yn un ffordd o sicrhau bod plant yn iach a’u bod yn gallu helpu i’w hamddiffyn rhag problemau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd.

Bydd eich lleoliad gofal plant Dechrau’n Deg yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y cynllun. Gallant hefyd roi copi i chi o daflen Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur

Rhoi Cynnig ar Goginio!

Mae Rhoi Cynnig ar Goginio Cwrs 9 wythnos i famau, tadau a gofalwyr.  Mae’r sesiynau’n anffurfiol ac maen nhw’n cael eu cynnal unwaith yr wythnos am ddwy awr.

Mae’r sesiynau yn cynnig coginio go iawn a gweithgareddau am fwyta’n iach a diogelwch bwyd. Mae yna hefyd sesiwn Caru Bwyd Casáu Gwastraff sy’n ymdrin â ffyrdd o leihau gwastraff bwyd ac arbed arian ar eich cyllideb fwyd.

Darperir yr holl gynhwysion a chyfarpar yn y sesiynau.

  • Syniadau prydau cyflym, hawdd a blasus y gall eich teulu cyfan eu mwynhau
  • Cyfran am ddim o’r hyn a wnewch i fynd adref
  • Gwell sgiliau coginio
  • Y cyfle i ennill credydau Agored Cymru
  • Cwrdd â theuluoedd eraill sy’n byw yn eich ardal

Oes, mae gan bob cwrs Rhoi Cynnig ar Goginio Dechrau’n Deg crèche sy’n cael ei redeg gan staff gofal plant cofrestredig.

Cynhelir cyrsiau Rhoi Cynnig ar Goginio yn rheolaidd drwy gydol y flwyddyn mewn ardaloedd Dechrau’n Deg.

Os hoffech gael lle, gofynnwch i’ch Ymwelydd Iechyd neu aelod o staff Dechrau’n Deg eich cyfeirio neu gallwch gysylltu â Thîm Bwyd a Maeth Dechrau’n Deg yn uniongyrchol ar 029 20351377 neu e-bost lisa.darrell@caerdydd.gov.uk*

*Sylwch oherwydd cyfyngiadau coronafeirws nid yw Rhoi Cynnig ar Goginio yn gallu cael ei gynnal fel y disgrifir ar hyn o bryd. Cysylltwch â’r tîm ar y manylion cyswllt uchod i gael rhagor o wybodaeth.

Y Cogydd Bach

Mae’r Cogydd Bach yn rhaglen goginio ymarferol i blant a ddatblygwyd gan Dîm Bwyd a Maeth Dechrau’n Deg a Thîm Ysgolion Iach Caerdydd a’r Fro. Mae’n cynnwys dros 40 o ryseitiau blasus!

Darperir hyfforddiant y Cogydd Bach gan Dîm Bwyd a Maeth Dechrau’n Deg i leoliadau Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg (fel meithrinfeydd a sesiynau aros a chwarae), i gefnogi staff y Blynyddoedd Cynnar i gyflwyno’r sesiynau coginio ymarferol gyda phlant.

  • Mae plant yn fwy tebygol o roi cynnig ar fwydydd newydd os ydynt wedi bod yn rhan o’r gwaith paratoi.
  • Gall coginio gyda phlant helpu i osod sylfeini arferion bwyta’n iach am oes.
  • Gellir datblygu sgiliau echddygol a chydlynu manwl drwy dorri, cymysgu, gwasgu a lledaenu.
  • Gall coginio helpu plant i ddatblygu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chyfathrebu.

Mae’r Cogydd Bach hefyd yn darparu tystiolaeth mewn lleoliadau gofal plant ar gyfer Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur a Chynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy Caerdydd.

Gofynnwch i’ch lleoliad Gofal Plant Dechrau’n Deg neu’ch Tîm Aros a Chwarae os ydynt yn cynnig sesiynau’r Cogydd Bach.

Gall lleoliadau sy’n cynnig y Cogydd Bach hefyd rannu ryseitiau i rieni a gofalwyr barhau i goginio gyda’u plant gartref.

Adnoddau

Ryseitiau teuluol

Pan fydd arian yn dynn, gall bwyta’n dda ymddangos fel her, ond mae llawer o opsiynau ar gyfer coginio a bwyta bwyd blasus ac iach ar gyllideb.

Dilynwch ddolenni’r wefan am lawer o syniadau am ryseitiau teuluol cost isel, blasus a fideos coginio i’ch helpu i Roi Cynnig ar Goginio!

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd