Hysbysiad Preifatrwydd Dechrau’n Deg Caerdydd

Mae Dechrau’n Deg Caerdydd yn wasanaeth a ddarperir gan Gyngor Caerdydd ar y cyd â’n sefydliadau partner. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar gyfer cwsmeriaid Dechrau’n Deg Caerdydd a’i nod yw rhoi gwybodaeth i chi am sut rydym yn prosesu gwybodaeth.

Prosesir yr holl ddata personol yn unol â Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU a Deddf Diogelu Data 2018.

Nod Dechrau’n Deg yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant drwy liniaru effaith tlodi, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwael yn ystod plentyndod cynnar, gan gynnwys canlyniadau iechyd.  Gall y Rhaglen gynnwys pedair hawl sy’n darparu:

  • Gofal plant rhan amser o safon uchel wedi’i ariannu i blant 2-3 oed;
  • Gwasanaeth dwys gan ymwelwyr iechyd;
  • Mynediad at gymorth rhianta; a
  • Chymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Drwy ddull tîm amlddisgyblaethol, sy’n nodi holl anghenion y plentyn a’i deulu ac sy’n darparu ymyriadau darbodus a chymesur, nod Dechrau’n Deg yw sicrhau:

  • Bod plant yn iach ac yn ffynnu;
  • Bod teuluoedd yn alluog ac yn ymdopi; a
  • Bod plant Dechrau’n Deg yn cyflawni eu potensial.

Pa ddata personol rydym yn ei gasglu amdanoch chi a pham?

Rydym yn casglu’r data personol canlynol:

  • Gwybodaeth adnabod fel eich enw llawn ac enw llawn eich plentyn
  • Manylion fel dyddiad geni eich plentyn neu ddyddiad geni disgwyliedig eich plentyn,
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad cartref, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Cyfeirnodau perthnasol fel rhif GIG

Mae’r data Categori Arbennig a gasglwn yn cynnwys;

  • Hil/Tarddiad Ethnig
  • Credoau crefyddol
  • Gwybodaeth gorfforol a/neu iechyd meddwl, fel gwybodaeth sy’n ymwneud â datblygiad gwybyddol ac emosiynol
  • Gwybodaeth ddemograffig, a all gynnwys gwybodaeth am aelodau o’r teulu a’r ardal y maent yn byw ynddi, lle bo angen hynny ar wasanaeth perthnasol
  • Rhywedd
  • Gwybodaeth ariannol lle bo’n berthnasol
  • Unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg

Cesglir y wybodaeth hon er mwyn darparu cymorth perthnasol i deuluoedd cymwys sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y rhaglen.

Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, fel aelodau o’r teulu neu bobl ddibynnol, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am y wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.

Sut y byddwn yn defnyddio’ch data personol

Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio:

  • I gysylltu â chi ynghylch darparu gwasanaethau sy’n dod o dan Dechrau’n Deg. Mae hyn yn cynnwys trefniadau gofal plant a gwasanaethau cymorth fel cymorth rhianta a/neu gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol
  • I gynnal atgyfeiriadau i sefydliadau partner a fydd yn darparu’r gwasanaeth cymorth sydd ei angen
  • I gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
  • At ddibenion adrodd ac ymchwil ystadegol, er mwyn gwella’r modd y darperir ein gwasanaethau yn y dyfodol (yn yr achos hwn bydd eich data’n ddienw)

Sefydliadau y byddwn yn rhannu eich data personol â nhw

Bydd eich data personol yn cael ei rannu â’n sefydliadau partner, sy’n rhan o’r Rhaglen Dechrau’n Deg. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ac mae’n cynnwys:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro
  • Llywodraeth Cymru (ni rennir unrhyw ddata personol – dim ond ystadegau dienw)
  • Lleoliadau Gofal Plant Dan Gontract a Chofrestredig
  • Cymorth i Fenywod
  • RISE
  • Llamau
  • Ysgol eich plentyn
  • Adrannau eraill y Cyngor fel Addysg a Gwasanaethau Plant – lle mae’r wybodaeth yn hanfodol ac yn angenrheidiol ar gyfer eu gwaith.

Ym mhob achos, byddwn ond yn rhannu data i’r graddau y credwn fod angen y wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.

Pa mor hir rydym yn cadw eich data personol

Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd ei angen er mwyn cyflawni’r diben y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion y byddwn yn eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Amserlen Gadw’r Cyngor

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol

Dyma ein seiliau cyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol:

  • Tasg Gyhoeddus – Byddwn yn prosesu eich data personol i gwblhau tasg er budd y cyhoedd neu i arfer awdurdod swyddogol sydd gennym fel corff cyhoeddus
  • Buddiannau Allweddol i Fywyd – Er mwyn diogelu buddiannau allweddol i fywyd gwrthrych y data neu fod dynol arall os bydd argyfwng neu lle mae pryderon diogelu yn codi.

Eich hawliau

Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd am gopïau o’ch data personol.

Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.

Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler ein Polisi Preifatrwyd:

Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro

Llamau

Diweddaru’r hysbysiad hwn

Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn o dro i dro.  Pan fyddwn yn gwneud hyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw’r newidiadau i rym.

Diweddarwyd yr hysbysiad hwn ym mis Chwefror 2023

Cysylltu â Diogelu Data

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am brosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data.

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW

diogeludata@caerdydd.gov.uk

 

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd