Datblygu Gweithlu Gofal Plant

Fel y gall gweithwyr gofal plant Dechrau’n Deg ddarparu eu gwasanaeth i’r safon uchaf posibl mae’n bwysig eu cefnogi gyda’r hyfforddiant diweddaraf o safon.

Mae tîm Datblygu’r Gweithlu Gofal Plant Dechrau’n Deg yn gyfrifol am ddarparu’r hyfforddiant sydd ei angen i leoliadau gofal plant fodloni’r rheoliadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol y mae’r Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru yn gofyn amdanynt.

Mae gweithwyr Gofal Plant Dechrau’n Deg hefyd yn gallu derbyn hyfforddiant ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus.  Mae pynciau hyfforddi yn cynnwys Lleferydd ac Iaith, Adrodd Straeon, Rheoli Ymddygiad, Lles Emosiynol a Busy Feet a llawer mwy.

Mae’r rhaglen hyfforddi hefyd yn cynorthwyo gweithwyr gofal plant presennol y mae angen iddynt ddiweddaru eu cymwysterau.

Mae’n rhaid i arweinwyr/rheolwyr lleoliad Dechrau’n Deg fod wedi cael eu cymhwyso i lefel 4/5. Mae’n rhaid i bob cymhwyster gael ei gydnabod a’i restru ar y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (FfCCh) sydd ar gael ar Wefan y Cyngor Gofal.

Dylai gweithwyr eraill yn lleoliadau Dechrau’n Deg fod yn gweithio gyda’r diben o ennill cymhwyster Gofal Plant

Asesir yr holl hyfforddiant i sicrhau ei fod yn bodloni anghenion y person sy’n ei dderbyn

Gallwch fynd i’r wefan Datblygu’r Gweithlu am fwy o wybodaeth, neu gysylltu â Sandra Fergusson ar 02920351703 neu Jackie Hannay ar 02920351705

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd