Mae angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar lawer o blant o bryd i’w gilydd, yn arbennig pan fyddant yn ifanc iawn. Mae lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg yn cael cymorth i ddeall anghenion plant ac ymateb iddynt fesul cam.
Mae angen cymorth ar rai plant, a bydd angen cymorth parhaus ac ymyriadau hirdymor ar rai i sicrhau y gallant gael eu cynnwys yn llwyddiannus a chael y cyfle gorau o gyrraedd eu potensial.
Mae gan bob lleoliad gofal plant Gydlynydd Anghenion Ychwanegol sy’n gyfrifol am nodi a monitro datblygiad plant sydd ag anghenion ychwanegol a chysylltu â rhieni/gofalwyr.
Mae holl staff Dechrau’n Deg yn dilyn ein Llawlyfr i Blant ag Anghenion Ychwanegol. Mae hwn yn esbonio’r lefelau gwahanol o gymorth ac ymyriadau sy’n rhan o ymateb cydlynol fesul cam. Ceir esboniad cryno o’r camau gwahanol isod
1. Gweithredu Blynyddoedd Cynnar
Mae’r Cydlynydd Anghenion Ychwanegol, ar y cyd â’r Gweithiwr Allweddol, yn casglu gwybodaeth i asesu anghenion plentyn a rhoi cynllun ar waith, sef y Nodau Gweithredu. Caiff hwn ei rannu â’r rhieni/gofalwyr a chaiff ei adolygu bob 4-6 wythnos.
2. Gweithredu Blynyddoedd Cynnar a Mwy
Os oes pryderon parhaus ynghylch cynnydd a datblygiad plentyn, gallai’r Cydlynydd Anghenion Ychwanegol ofyn am ganiatâd i geisio cyngor pellach gan asiantaethau cymorth eraill e.e. Ymwelydd Iechyd, Tîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar, Seicolegydd Addysg, Therapydd Lleferydd ac Iaith neu Bediatregydd.
Bydd y Cydlynydd Anghenion Ychwanegol yn llunio Cynllun Nodi ar Gam Cynnar ar y cyd â’r rhieni/gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n rhan o fywyd y plentyn. Caiff ei adolygu bob 4-6 wythnos.
3. Cymorth Ychwanegol
Bydd y rhan fwyaf o blant sy’n mynychu gofal plant yn cael budd o gymysgedd fewnbwn sydd wedi’i deilwra yn unigol, ymgysylltu o fewn grwpiau bach a chael bod yn rhan o leoliad cyfan. Bydd hyn yn galluogi plentyn i gael mynediad i’r lleoliad a chael budd o gymorth ychwanegol. Bydd angen i Leoliadau a/neu Ymwelydd Iechyd ddilyn y protocol penodedig ar gyfer gwneud cais am gymorth ychwanegol i gynnig y mewnbwn dwys a/neu benodol y gallai fod ei angen ar blentyn â lefel eithriadol o anghenion ychwanegol.
Mae Dechrau’n Deg yn ymrwymedig i ddull cynhwysol a nodi plant ag anghenion ychwanegol ar gam cynnar.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Cath Keegan-Smith (Arweinydd Tîm Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar a Chydlynydd Dechrau’n Deg) ar 029 2067 1479.