A ydych yn gymwys?
Oes gennych chi blentyn rhwng 0 a 3 blwydd ac 11 mis oed ac yn byw yng Nghaerdydd?
Os felly cysylltwch â ni i weld os ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg.
Beth rydyn ni’n ei wneud yn Dechrau’n Deg Caerdydd
Y gwasanaethau a gynigiwn yn Dechrau’n Deg
Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd Estynedig
Nod Gwasanaeth Iechyd Dechrau’n Deg yw eich cefnogi chi gyda rhianta a rhoi unrhyw gymorth a chyngor a fydd eu hangen arnoch chi o bosibl, o’r cyfnod cynenedigol trwodd i 3 blwydd a 11 mis.
Gellir darparu cymorth a chefnogaeth ar ystod o faterion a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu. Mae’r rhain yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, arferion cysgu, hyfforddi i ddefnyddio’r poti a materion ymddygiad. Hefyd gallwn ni eich cyfeirio neu eich atgyfeirio at asiantaethau eraill o fewn Dechrau’n Deg ac y tu allan iddo os bydd angen.
Mae tîm Iechyd Dechrau’n Deg Caerdydd yn cynnwys
- Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
- Gwasanaeth Gweinyddesau Meithrin
- Tîm Therapi Lleferydd ac Iaith
- Gwasanaethau Dieteteg
- Arbenigwyr Cymorth Bwydo ar y fron
Darganfod mwy.
Cyrchu Rhaglenni Rhianta
Yn Dechrau’n Deg Caerdydd rydym yn gwerthfawrogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd ehangach fel addysgwyr cymaint a phwysicaf plant. Mae hyn wrth wraidd yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.
Gallwn weithio gyda chi yn unigol neu mewn sesiynau grŵp i ddarparu cymorth rhiant sy’n:
- Gwella eich sgiliau rhianta cadarnhaol er mwyn rheoli ymddygiad yn fwy effeithiol a hyrwyddo sgiliau cymdeithasol, hunan-barch a hunanddisgyblaeth plant
- Gwella perthnasoedd rhwng rhieni a phlant a rhwng rhiant a rhiant
- Datblygu agweddau, dyheadau a gwydnwch cadarnhaol
- Cryfhau dealltwriaeth o ddatblygiad plant a chefnogi eich gallu i fod yn ymatebol i anghenion eich plant i hyrwyddo eu datblygiad cymdeithasol, emosiynol a gwybyddol a’u lles
- Cynyddu eich hyder yn eu rôl rhianta
- Cynyddu eich hyder a’ch sgiliau wrth ddarparu amgylchedd dysgu cartref cadarnhaol a chefnogi eich plentyn gyda’i ddysgu
Darganfod mwy.
Gofal plant rhan-amser o safon uchel wedi’i Ariannu’n Llawn i blant rhwng 2 a 3 oed.
Mae darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant o 2-3 oed yn rhan ganolog o’r gwasanaethau i’w darparu o dan fenter Dechrau’n Deg. Darperir gofal plant mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Caerdydd ac mae’r Tîm Cynghori ar Ofal Plant yn gweithio’n agos gyda’r holl leoliadau i gefnogi, datblygu a monitro arfer o ansawdd.
Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu
Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn nod graidd i brosiect Dechrau’n Deg.
Mae digon o dystiolaeth o bwysigrwydd targedu ac adnabod plant sy’n cael anawsterau mor gynnar â phosibl. Felly hefyd ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd sydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.
Mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, caiff plant sydd o bosibl yn cael anawsterau gyda lleferydd ac/neu iaith eu nodi cyn gynted ag y bo modd er mwyn i’r tîm allu ddarparu’r cymorth mwyaf priodol mor gynnar â phosibl.
Ein partneriaid
Ewch i wefannau ein partneriaid am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gyfer Teuluoedd Caerdydd.