Croeso i Dechrau’n Deg Caerdydd

Yn darpau help ychwangenol i gael plant i ddechrau gorau mewn bywyd.

Dilynwch ni ar Facebook

A ydych yn gymwys?

Oes gennych chi blentyn rhwng 0 a 3 blwydd ac 11 mis oed ac yn byw yng Nghaerdydd?

Rhowch eich cod post i wirio a ydych yn gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg Caerdydd ac i gael gwybod pa wasanaethau Dechrau’n Deg y gallwch eu defnyddio.

Baby holding 20 years ballooon

Dathlu 20 mlynedd o Ddechrau’n Deg

Coloured bunting

Mae Dechrau’n Deg Caerdydd yn dathlu 20 mlynedd o gefnogi plant a theuluoedd yn 2026.

Rydym wedi helpu miloedd o deuluoedd ar draws cymunedau i gael cymorth hanfodol. Er enghraifft:

  • Gofal plant
  • Cymorth rhianta
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Cymorth gyda’r blynyddoedd cynnar

Yn ystod y camau pwysicaf o ddysgu a datblygiad plentyn, ein nod yw:

  • rhoi’r dechrau gorau posibl iddynt, a
  • helpu eu rhieni neu ofalwyr i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi wrth iddynt ymdopi â bod yn rhiant.

Ers ein lansio gan Lywodraeth Cymru yn 2006, rydym wedi tyfu ac esblygu i ddiwallu anghenion newidiol teuluoedd heddiw.

Cefnogi teuluoedd

Mae ein gwasanaethau yn parhau i ddarparu:

Cysylltwch

Dysgwch fwy am y ffordd y gallwn eich cefnogi chi neu cysylltwch â ni heddiw.

Edrych yn ôl ac edrych ymlaen

Mae ein pen-blwydd yn 20 oed yn gyfle i fyfyrio ar yr effaith gadarnhaol y mae’r rhaglen wedi’i chael ar deuluoedd Caerdydd.

Wrth ddathlu, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar y dyfodol, gan barhau i addasu a datblygu gwasanaethau fel y gall teuluoedd gael gafael ar y cymorth iawn, ar yr adeg iawn.

“Mae Dechrau’n Deg yn fenter mor hyfryd. Mae wedi helpu fy nheulu mewn cymaint o ffyrdd gan ei fod wedi darparu sesiynau hwyliog lle gallai ein plant fynd a lle gallem ni gysylltu â rhieni eraill. Roedd fy mab yn arfer bod mor swil ond dros amser, ac wrth fynd i aros a chwarae Dechrau’n Deg, mae wedi magu hyder a dechrau chwarae’n annibynnol. Diolch o galon Dechrau’n Deg.”

“Mae Dechrau’n Deg yn amhrisiadwy i deuluoedd. Profiadau anhygoel, pob gweithgaredd a chwrs am ddim. Mae fy machgen bach wedi ffynnu ers dechrau gyda Dechrau’n Deg. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd gydag aros a chwarae a’r teithiau, diolch yn fawr iawn.”

“Diolch yn fawr i dîm Dechrau’n Deg, rydw i wedi mwynhau mynd i aros a chwarae a chwrdd â ffrindiau. Fe wnes i ddod i Gymru yn 2022 ac ymunais â Dechrau’n Deg yn 2024, mae wedi helpu cymaint gyda fy iaith a gwneud ffrindiau, diolch.”

“Pan ddes i i Gymru doedd gen i neb yma. Dim ond fi a fy mhlentyn. Weithiau does dim angen arian arnoch chi, does dim angen unrhyw beth arnoch chi, dim ond rhywun i ofyn, “Sut wyt ti?” dyna’r prif gwestiwn, dwi’n meddwl. Dyna wnaeth Dechrau’n Deg. Fe wnaethon nhw ei gwneud hi’n gyfforddus i fi gysylltu â nhw am unrhyw beth – boed yn gyngor am fy mhlentyn, neu os oeddwn i’n cael diwrnod anodd trwy fod yn rhiant sengl. Roedd yn gyfforddus i fi fynd atyn nhw yn aros a chwarae. Rwy’n gwybod bod yna bobl y galla i estyn allan atyn nhw, sy’n gallu helpu, oherwydd doeddwn i erioed wedi cael plentyn, a hwn oedd fy nhro cyntaf yn y wlad hon. Diolch”

Parents with a pushchair and baby

Beth rydyn ni’n ei wneud yn Dechrau’n Deg Caerdydd

Y gwasanaethau a gynigiwn yn Dechrau’n Deg

This is an image of some adults doing group reading with some children

Gwasanaeth Ymweliadau Iechyd Estynedig

Nod Gwasanaeth Iechyd Dechrau’n Deg yw eich cefnogi chi gyda rhianta a rhoi unrhyw gymorth a chyngor a fydd eu hangen arnoch chi o bosibl, o’r cyfnod cynenedigol trwodd i 3 blwydd a 11 mis.

Gellir darparu cymorth a chefnogaeth ar ystod o faterion a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu. Mae’r rhain yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, arferion cysgu, hyfforddi i ddefnyddio’r poti a materion ymddygiad. Hefyd gallwn ni eich cyfeirio neu eich atgyfeirio at asiantaethau eraill o fewn Dechrau’n Deg ac y tu allan iddo os bydd angen.

Mae tîm Iechyd Dechrau’n Deg Caerdydd yn cynnwys

  • Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd
  • Gwasanaeth Gweinyddesau Meithrin
  • Tîm Therapi Lleferydd ac Iaith
  • Gwasanaethau Dieteteg
  • Arbenigwyr Cymorth Bwydo ar y fron

Darganfod myw ar gwasanaeth iechyd.

Cyrchu Rhaglenni Rhianta

Llongyfarchiadau ar ddod yn rhiant!.

Yn Dechrau’n Deg Caerdydd rydym yn gwerthfawrogi rhieni, gofalwyr a theuluoedd ehangach fel addysgwyr cymaint a phwysicaf plant. Mae hyn wrth wraidd yr holl wasanaethau rydym yn eu darparu.

Mae Rhianta Caerdydd 0-18 a Rhianta Dechrau’n Deg ill dau yn rhan o Wasanaethau Rhianta Caerdydd.  Cymaint â mae bod yn riant yn gallu rhoi llawenydd a hapusrwydd i chi, gall fod yn heriol hefyd ar brydiau. Nod Gwasanaethau Rhianta Caerdydd yw gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd sy’n byw yng Nghaerdydd i wella hyder a sgiliau rhianta, cryfhau perthnasoedd a meithrin llesiant a gwydnwch.

Gallwn weithio gyda chi yn unigol neu mewn sesiynau grŵp i ddarparu cymorth rhiant sy’n:

  • Cynyddu eich hyder fel rhiant, ac yn eich helpu i deimlo y gallwch ymdopi’n well mewn sefyllfaoedd sy’n achosi straen
  • Adeiladu ar eich hunanreoleiddio eich hun (sut rydych chi’n nodi ac yn rheoli eich teimladau eich hun) a sgiliau rhianta cadarnhaol i hyrwyddo datblygiad eich plant.  Mae hyn yn cynnwys sut maen nhw’n rheoli eu hemosiynau (hunanreoleiddio), chwarae gydag eraill a sut maen nhw’n teimlo amdanyn nhw eu hunain (hunan-barch), gan wneud ymddygiad yn haws i’w ddeall a’i reoli.
  • Gwella’r berthynas a’r amser rydych chi’n eu mwynhau gyda’ch gilydd, yn chwarae gyda’ch plant
  • Gwella cyfathrebu a pherthnasoedd rhwng rhieni
  • Cryfhau eich dealltwriaeth o bwysigrwydd chwarae a rôl bwysig rhieni ar gyfer datblygiad plant.  Mae hyn yn eich helpu i ymateb i anghenion eich plant i hyrwyddo eu dysgu, eu datblygiad a’u lles

Yn Dechrau’n Deg Caerdydd, mae ein timau Rhianta yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i deuluoedd, y gall rhieni a phlant eu mwynhau gyda’i gilydd neu y gall rhieni fynychu tra bod plant yn derbyn gofal yn ein crèche.   Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau i rieni unigol yn y cartref.   Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig:

  • Mae Eich Babi’n Anhygoel
  • Aros a Chwarae
  • Siaradwyr Bach, Fforwyr Bach
  • GroBrain
  • GroBrain i Blant Bach
  • Rhaglen Datblygu Rhieni
  • Chwarae Plant
  • Gwasanaeth a arweinir gan seicolegwyr Rhieni a Mwy

Trwy rianta’n gadarnhaol a meithrin perthnasoedd ystyrlon, gall rhieni helpu i fagu plant iach, datblygu cartref sy’n fwy digynnwrf a heddychlon, gyda llai o ddadleuon a gwrthdaro.  Dywed ymchwil wrthym ni fod plant sy’n tyfu i fyny gyda rhianta cadarnhaol yn fwy tebygol o:

  • Wneud yn well yn yr ysgol
  • Cael gwell perthnasoedd gydag aelodau o’r teulu a ffrindiau
  • Bod â mwy o hunan-barch a hyder
  • Bod â llai o broblemau ymddygiadol
  • Gallu rheoli eu hemosiynau’n well

Os oes gennych ddiddordeb yn ein Gwasanaeth Rhianta ond nad ydych yn gymwys yn Dechrau’n Deg, ewch i’n gwefan Rhianta Caerdydd.

Darganfod myw ar gwasanaethau rhianta.

This image shows a young man and woman standing up. The woman in pregnant.
This is an image of some children playing in a ball pit that has a slide going in to it.

Gofal plant rhan-amser o safon uchel wedi’i Ariannu’n Llawn i blant rhwng 2 a 3 oed.

Mae darparu gofal plant o ansawdd uchel i blant o 2-3 oed yn rhan ganolog o’r gwasanaethau i’w darparu o dan fenter Dechrau’n Deg. Darperir gofal plant mewn amrywiaeth o leoliadau ledled Caerdydd ac mae’r Tîm Cynghori ar Ofal Plant yn gweithio’n agos gyda’r holl leoliadau i gefnogi, datblygu a monitro arfer o ansawdd.

Iaith, Lleferydd a Chyfathrebu

Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn nod graidd i brosiect Dechrau’n Deg.

Mae digon o dystiolaeth o bwysigrwydd targedu ac adnabod plant sy’n cael anawsterau mor gynnar â phosibl. Felly hefyd ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd sydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.

Mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, caiff plant sydd o bosibl yn cael anawsterau gyda lleferydd ac/neu iaith eu nodi cyn gynted ag y bo modd er mwyn i’r tîm allu ddarparu’r cymorth mwyaf priodol mor gynnar â phosibl.

This image shows a group of children sat around a woman who is reading a book to them

Ein partneriaid

Ewch i wefannau ein partneriaid am ragor o wybodaeth am y gwasanaethau ar gyfer Teuluoedd Caerdydd.