Mae tîm Canolfan Achredu a Datblygu’r Gweithlu (CADG) yn gyfrifol am ddarparu a rheoli hyfforddiant o ansawdd uchel, wedi’i werthuso i gefnogi cenhadaeth Dechrau’n Deg: “Gweithio gyda’n gilydd i wella canlyniadau i blant”
Rôl tîm canolfan achredu a datblygu’r gweithlu yw comisiynu, darparu a rheoli rhaglenni hyfforddi effeithiol sydd â’r nod o gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gwahanol grwpiau o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Ein gweithlu yw ein hadnodd pwysicaf ac mae’r sefydlu a’r hyfforddiant a ddarperir drwy CADG yn sicrhau bod ein harfer yn fyfyriol, yn gyfredol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Gofal
Mae Datblygu’r Gweithlu yn cynnig hyfforddiant, cyngor ac arweiniad i’r sector gofal plant nas cynhelir o fewn awdurdod lleol Caerdydd. Mae hyfforddiant wedi’i anelu at ddarparwyr gofal plant cofrestredig Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), yn ogystal â’r rhai sy’n dymuno dechrau eu busnes gofal plant cofrestredig eu hunain. Rydym yn cynnig hyfforddiant sy’n cwmpasu gofynion Cyfreithiol a Rheoliadol, yn ogystal â hyrwyddo datblygiad proffesiynol parhaus gweithlu gofal plant.
Hyfforddiant Staff
Mae Datblygu’r Gweithlu yn cydlynu ac yn comisiynu cyrsiau hyfforddi ar gyfer staff Cymorth Cynnar a Gwasanaethau Plant, yn ogystal â’r rhai a gyflogir trwy wasanaethau a ariennir gan Teuluoedd yn Gyntaf. Mae’r cyrsiau hyfforddi a gynigir yn cynnwys hyfforddiant sylfaenol sy’n orfodol i bob tîm Cymorth Cynnar, yn ogystal â hyfforddiant gwasanaeth penodol naill ai ar gyfer timau cyfan neu unigolion, er mwyn gwella arfer. Cynigir hyfforddiant ar sail wedi’i ariannu’n llawn i staff a phartneriaid gweithio.
Canolfan Achredu
Mae’r Ganolfan Achredu’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr sy’n oedolion ennill gwybodaeth a sgiliau hanfodol drwy raglenni rhianta o Lefel Mynediad 3 i Lefel 2. Cynigir cyfle i rieni sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni rhianta ennill achrediad wrth iddynt gwblhau’r rhaglen, drwy gwblhau a chyflwyno portffolio o waith. Mae cyrsiau achrededig yn cynnwys ‘Chwarae Plant’, ‘Magu Rhieni’ a ‘Rhoi Cynnig ar Goginio’. Rydym hefyd yn cefnogi datblygiad staff drwy gyflwyno ac achredu cymhwyster lefel tri y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ‘Gweithio gyda Rhieni a Gofalwyr’. Mae hyn yn agored i unrhyw ymarferydd ar draws Cymorth Cynnar sy’n gweithio gyda theuluoedd. Rydym yn gweithio gyda’r tîm Cymorth Busnes Gofal Plant i ddarparu’r cymwysterau Gwarchodwr Plant cyn-gofrestru. Mae’r ganolfan wedi’i chofrestru gydag Agored a City & Guilds.
Cyswllt:
Gofal Plant a Hyfforddiant Staff: datblygurgweithlu@caerdydd.gov.uk
Canolfan Achredu AccreditedCentre@cardiff.gov.uk