Y Gwasanaeth Iechyd

Ynglŷn â Gwasanaethau Iechyd Dechrau’n Deg Caerdydd

Nod Gwasanaeth Iechyd Dechrau’n Deg yw eich cefnogi gyda rhianta a rhoi unrhyw gymorth a chyngor y mae arnoch eu hangen, o’r cyfnod cyn geni hyd at 3 blwydd ac 11 mis oed.

Gellir darparu cymorth a chefnogaeth ar ystod o faterion a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu. Mae’r rhain yn cynnwys gofalu am eich babi newydd, bwydo, diddyfnu, arferion cysgu, hyfforddi i ddefnyddio’r poti a materion ymddygiad. Hefyd gallwn ni eich cyfeirio neu eich atgyfeirio at asiantaethau eraill o fewn Dechrau’n Deg a’r tu allan iddo os oes angen.

Gwasanaethau Iechyd Dechrau’n Deg Caerdydd

Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd

Mae Ymwelwyr Iechyd i gyd yn nyrsys/bydwragedd cofrestredig sydd â sawl blwyddyn o brofiad yn yr ysbyty ac sydd wedi cwblhau cwrs blwyddyn nyrsys iechyd cyhoeddus cymunedol arbenigol. Maent hefyd yn cael hyfforddiant penodol Dechrau’n Deg mewn masâj babanod, asesiadau babis newydd-anedig ac asesiad datblygu yn ystod plentyndod.

Gall gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd Dechrau’n Deg gynnig ymweliadau cartref ychwanegol o’r cyfnod cyn geni hyd at 3 blwydd ac 11 mis oed. Mae hyn er mwyn eich cefnogi gyda rhianta

Gwasanaeth Nyrsys Meithrin Cymunedol

Mae’r Gwasanaeth Nyrsys Meithrin Cymunedol yn gweithio ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Ymwelwyr Iechyd i roi cyngor a chymorth pwrpasol i chi a’ch teulu. Gall y tîm o nyrsys meithrin hyfforddedig neu rai â chymhwyster cyfatebol roi cyngor a chymorth ar amrywiaeth o faterion a allai effeithio arnoch chi a’ch teulu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Gofalu am eich babi newydd
  • Bwydo
  • Diddyfnu
  • Arferion cysgu
  • Hyfforddiant poti
  • Materion ymddygiad

Gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith

Mewn ardaloedd Dechrau’n Deg, caiff plant sy’n cael anawsterau gyda lleferydd ac/neu iaith eu nodi cyn gynted ag y bo modd er mwyn i’r tîm allu ddarparu’r cymorth mwyaf priodol mor gynnar â phosibl.

Gall tîm Therapi Lleferydd ac Iaith Dechrau’n Deg Caerdydd weithio gyda chi a’ch plentyn i ddarparu strategaethau pwrpasol, penodol ac ymarferol i ddatblygu sgiliau iaith a chyfathrebu plant.

Mae’r tîm Therapi Lleferydd ac Iaith yn gweithio i sicrhau bod pob tîm Dechrau’n Deg, gan gynnwys ein Gwasanaethau Rhianta a Gofal Plant, yn gallu nodi a chefnogi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant.

Darllen Rhagor

Tîm Bwyd a Maeth

Mae ein tîm o ddeietegwyr a gweithwyr cymorth deietegol yn cefnogi teuluoedd a phlant i fwyta deiet iach, fforddiadwy a maethlon er budd eu hiechyd a’u lles. Mae’r gwasanaethau a ddarperir gan y tîm yn cynnwys sesiynau coginio a chyrsiau sgiliau bwyta’n iach a choginio achrededig i deuluoedd.

Mae’r tîm Bwyd a Maeth yn sicrhau bod teuluoedd yn cael gwybodaeth gyson a chywir a chymorth ymarferol ynghylch bwyd a maeth. Darparu hyfforddiant bwyd a maeth i weithwyr proffesiynol yn y blynyddoedd cynnar, megis gweithwyr gofal plant cofrestredig, ymwelwyr iechyd a nyrsys meithrin cymunedol. Maent hefyd yn darparu adnoddau gwybodaeth am fwyta’n iach, bwydo cyflenwol a bwyta trafferthus.

Mae’r tîm yn cefnogi lleoliadau blynyddoedd cynnar Dechrau’n Deg i ennill Gwobr Byrbrydau Iach Safon Aur a’r Cynllun Cyn-ysgol Iach a Chynaliadwy, gan alluogi plant i fanteisio ar ddewisiadau bwyd a diod iach mewn amgylchedd iach sy’n cefnogi iechyd a lles plant.

Darllen Rhagor

Gwefan wedi'i gynllunio gan Tȋm y We Cyngor Caerdydd

Polisi Cwcis Polisi Preifatrwydd