Mae Dechrau’n Deg Caerdydd yn wasanaeth a ddarperir gan Gyngor Caerdydd ar y cyd â’n sefydliadau partner. Bwriedir yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar gyfer cwsmeriaid Dechrau’n Deg Caerdydd a’i nod yw rhoi gwybodaeth i chi am sut rydym yn prosesu gwybodaeth.
Prosesir yr holl ddata personol yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Nod Dechrau’n Deg yw gwneud gwahaniaeth pendant i gyfleoedd bywyd plant drwy liniaru effaith tlodi, sy’n gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwael yn ystod plentyndod cynnar, gan gynnwys canlyniadau iechyd. Mae’r Rhaglen yn cynnwys pedwar hawl sy’n darparu:
- Gofal plant rhan-amser o ansawdd dda am ddim i blant rhwng 2 a 3 oed.
- Gwasanaeth dwys gan ymwelwyr iechyd;
- Mynediad at gymorth rhianta; a
- Chymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Drwy ddull tîm amlddisgyblaethol, sy’n nodi holl anghenion y plentyn a’i deulu ac sy’n darparu ymyriadau darbodus a chymesur, nod Dechrau’n Deg yw sicrhau:
- Bod plant yn iach ac yn ffynnu;
- Bod teuluoedd yn alluog ac yn ymdopi; a
- Bod plant Dechrau’n Deg yn cyrraedd eu potensial.
Pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu amdanoch chi a pham?
Rydyn ni’n casglu’r data personol canlynol:
- Gwybodaeth adnabod fel eich enw llawn ac enw llawn eich plentyn
- Manylion megis dyddiad geni eich plentyn neu’r dyddiad dyledus disgwyliedig,
- Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad cartref, rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
- Rhifau cyfeirio perthnasol fel rhif GIG
Mae data Categori Arbennig a gasglwn yn cynnwys;
- Hil/Tarddiad Ethnig
- Credoau Crefyddol
- Gwybodaeth gorfforol a/neu iechyd meddwl, megis gwybodaeth sy’n ymwneud â datblygiad gwybyddol ac emosiynol
- Gwybodaeth ddemograffig, a all gynnwys gwybodaeth am aelodau o’r teulu a’r ardal y mae’n byw ynddi, lle bo angen gan wasanaeth perthnasol
- Rhywedd
- Gwybodaeth Ariannol lle bo’n berthnasol
- Unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau Dechrau’n Deg
Cesglir y wybodaeth hon er mwyn darparu cymorth perthnasol i deuluoedd cymwys sydd wedi cytuno i gymryd rhan yn y rhaglen.
Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau’r teulu neu bobl ddibynnol, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn.
Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol
Bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i;
- Gysylltu â chi ynghylch darparu gwasanaethau sy’n dod dan Dechrau’n Deg. Mae hyn yn cynnwys trefniadau gofal plant a gwasanaethau cymorth fel cymorth rhianta a/neu gymorth gydag anghenion dysgu ychwanegol
- Cynnal atgyfeiriadau i sefydliadau partner a fydd yn darparu’r gwasanaeth cymorth sydd ei angen
- Cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol fel Awdurdod Lleol
- At ddibenion ymchwil ystadegol, er mwyn gwella’r modd y darperir ein gwasanaethau yn y dyfodol (yn yr achos hwn bydd eich data’n ddienw)
Sefydliadau y byddwn o bosibl yn rhannu eich data personol â nhw
Bydd eich data personol yn cael ei rannu â’n sefydliadau partner, sy’n rhan o’r Rhaglen Dechrau’n Deg. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei rhannu er mwyn darparu gwasanaethau cymorth ac mae’n cynnwys;
- Bwrdd Iechyd Prifysgol (BIP) Caerdydd a’r Fro
- Llywodraeth Cymru (ni rennir unrhyw ddata personol – dim ond ystadegau dienw)
- Lleoliadau Gofal Plant Dan Gontract a Chofrestredig
- Cymorth i Fenywod
- RISE
- Llamau
- Ysgol eich plentyn
Ym mhob achos, byddwn ond yn rhannu data i’r raddfa yr ydym yn credu fod angen y wybodaeth yn rhesymol at y dibenion hyn.
Am faint rydym yn cadw eich data personol
Byddwn ond yn cadw eich data personol cyn hired ag sydd angen er mwyn cyflawni’r diben(ion) y cafodd ei gasglu ar ei gyfer ac am gyfnod yr ydym yn ei ystyried yn angenrheidiol i ymdrin ag unrhyw gwestiynau neu gwynion allwn ni eu derbyn, oni bai y dewiswn gadw eich data am gyfnod hwy i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoliadol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghofrestr gadw’r Cyngor
Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data personol
Yn gyffredinol, ar un o’r seiliau cyfreithiol isod y byddwn yn defnyddio eich data personol:
- Cydsyniad, yr ydych wedi’i ddarparu er mwyn cymryd rhan yn y Rhaglen Dechrau’n Deg
- Rhwymedigaeth Gyfreithiol, y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â hi fel Awdurdod Lleol
- Er mwyn diogelu buddiannau hanfodol y goddrych data neu person naturiol arall.
Tynnu eich cydsyniad yn ôl
Pan mai cydsyniad yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol, mae gennych yr hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw’n ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hynny drwy gysylltu â ni yn dechraundegcaerdydd@caerdydd.gov.uk a byddwn yn delio â’ch cais cyn gynted â phosibl.
Eich hawliau
Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o’ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i’r canlynol:
Yr hawl i gael mynediad – Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o’ch data personol.
Yr hawl i gywiro – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy’n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau’r wybodaeth sy’n anghyflawn yn eich barn chi.
Yr hawl i ddileu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gyfyngu prosesu – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu prosesu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i wrthwynebu prosesu – Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, o dan rai amodau.
Yr hawl i gludo data – Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo’r data yr ydym wedi’i gasglu i sefydliad arall, neu’n uniongyrchol i chi, o dan rai amodau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
Hysbysiadau Preifatrwydd Eraill
I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, gweler ein Polisi Preifatrwydd.
Diweddaru’r hysbysiad hwn
Gallwn ddiweddaru’r hysbysiad hwn yn achlysurol. Pan fyddwn yn gwneud hyn byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau a’r dyddiadau y daw’r newidiadau i rym.
Cysylltu â Diogelu Data
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am brosesu eich data personol, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa’r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW